Peintiad gan Jason Tyghe – enillydd cystadleuaeth arlunio Swtan |
Mae’r bwthyn tô gwellt – Swtan – wedi’i adfer ar ei safle gwreiddiol, yn agos at glogwyni Porth Swtan. Mae’n sefyll mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) ac ar yr Arfordir Treftadaeth gyda golygfeydd penigamp dros fôr Iwerddon a Chaergybi a’i phorthladd rhyngwladol.
Oddi mewn i’r bwthyn unigryw, mae’r lloriau pridd, yr arddangosfeydd a’r cyflwyniadau gofalus yn galluogi’r ymwelwyr i “gamu’n ôl mewn amser”, ac i brofi bywyd mewn bwthyn gwledig cymreig, ar droad yr 20fed ganrif.
Mae’r amgueddfa yn cynnig profiadau diddorol i’r teulu i gyd:-
Mae llawer o weithgareddau i’r plant – gan gynnwys bwydo’r ieir a chasglu wyau.
Ysgubor llawn gwybodaeth,
Casgliad o hen gelfi fferm,
Gardd llawn llysiau, a perllan o goed afalau amrywiol o dras Cymreig
Man cysgodol i fwynhau picnic
Mynediad cyfyngedig i gadeiriau olwyn
Man parcio ceir dros dro i ymwelwyr – yn ystod gwyliau ysgol yn unig.
Bydd ymweliadau yn parhau am oddeutu awr neu fwy, ac mae cyfle i ymlacio a mwynhau y tawelwch a’r profiadau unigryw sy’n perthyn i’r bwthyn hynafol hwn.
Hawlfraint © 2023 Amgueddfa Werin Swtan. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd