Amgueddfa Treftadaeth Swtan

CEFNOGI SWTAN

Sefydlwyd y drefn ymaelodaeth Swtan yn gynnar iawn yn ein siwrne.

Cysyniad y cynllun yw ehangu cyrraedd Swtan yn fwy na’r cyfarwyddwyr.

Ceir aelodau o’r gymuned leol, ac ymwelwyr brwd sydd wedi mwynhau’r profiad ymweld â Swtan gyda’r bwriad o gadw mewn cysylltiad drwy ymaelodaeth oes neu blwyddyn.

Fel aelodau cyhoeddir adroddiad blynyddol, gwahoddiad a phleidlais yng nghyfarfod blynyddol a mynediad rhad ac am ddim i Swtan.

Yn bresennol codir:

Aelodaeth am oes £60.00 Oedolyn Sengl
+ £40.00 am ail Oedolyn hefo’r un cyfeiriad.
Aelodaeth flynyddol £5.00 Aelod Hŷn
£7.00 Oedolyn Sengl
+ £5.00 am ail Oedolyn hefo’r un cyfeiriad
£15.00 Aelodaeth Teulu ee. Oedolion a phlant dan 16.

Ym 2017: Aelodaeth am Oes: 62 ac Aelodaeth Flynyddol: 35.

Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth fwy ymarferol, ac yn croesawu gwirfoddolwyr sydd ag amser/sgiliau ar gael. Gan amlaf - gwaith cynnal, garddio, codi arian, lletygarwch, ymchwil a thrin arteffactau ayyb

Buasem yn croesawu aelodau newydd i’r pwyllgor cyfarwyddwyr gan aelodau brwd fuasai’n edrych ar ddyfodol Cyfeillion Swtan.

Cefnogaeth Broffesiynol:

Derbynnir cefnogaeth a chyngor gan:

  • Menter Môn
  • Medrwn Môn
  • Canolfan Cydweithredol Cymru
  • Oriel Ynys Môn
  • Comisiynydd yr Iaith Gymraeg
  • Addysg drwy Amgueddfeydd
  • Kendall Down who filmed our intro video
  • Tristan Wood who allows children, on school trips to Swtan, to include a visit to his lobster tanks
  • Den4Mugs, who made our signs

Diolch hefyd i Kendall Down am y fideo cyflwyno ac i Tristan Wood ar ganiatau mynediad i’r tanciau cimychiaid i deithiau Ysgolion; ac Den4Mugs, am ein arwyddion glas adnabyddus.

Rydym wedi manteisio ar dderbyn grantiau a rhoddion gan:

  • Cyngor Sir Ynys Môn
  • Cyngor Cymuned Cylch y Garn
  • AONB
  • Clwb Cymdeithasol Yr Wylfa
  • C ynifer o roddion preifat - llawer drwy’r blwch rhoddion ger giât y bwthyn.

Diolchwn hefyd i’r landlordiaid Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Drwy gadw'n anghymesur, maent yn rheoli unrhyw ddatblygiadau bach y mae Cyfeillion Swtan yn bwriadu eu gwneud er budd ymwelwyr i Swtan.

Cewch ragor o wybodaeth:

Ymaelodaeth (Am Oes/Blynyddol) a gwirfoddoli i:

ymholiadau@swtan.cymru

Cysylltwch â ni

Ebost: ymholiadau@swtan.cymru

Facebook Twitter

Hawlfraint © 2023 Amgueddfa Werin Swtan. Cedwir Pob Hawl. Gwefan gan Delwedd